Helo bawb, fy enw i yw Niall Galloway ac rwy’n un o’r wardeiniaid dan hyfforddiant ar Ynys Echni. Fe ddois i Ynys Echni i ennill profiad ym myd cadwraeth, gyda’r nod o ddilyn gyrfa yn y maes hwn.
Yn fy amser sbâr, rwy’n hoff o dynnu lluniau o anifeiliaid ar Echni. Mae gen i Nikon D500, gyda lens zoom teleffoto Sigma 150-600mm, lens macro Sigma 105mm a throswr tele 1.4x.
Un o’r ffotograffau cyntaf a gymerais oedd o’r slorwm neu’r neidr ddefaid yma ar Ynys Echni. Tynnwyd y ffoto gyda’r lens macro. Rhan o’r gwaith a wnes yma oedd i gynnal arolygon ar nadroedd defaid. Mae’r nadroedd defaid neu’r slorymod ar Ynys Echni yn unigryw gan fod smotiau glas mwy gan rai ohonynt yma na’r rhai ar dir mawr y DG.

Mae’r ail ffoto o gyw gwylan gefnddu leiaf. Un o’r rhesymau pam fod Ynys Echni yn warchodfa natur yw am ei fod yn un o brif safleoedd magu yr wylan gefnddu leiaf yn y DG. Ar uchafbwynt y tymor magu mae yna ryw 2,500 o barau yn magu ar yr ynys.

Llwyddais i gael llun o un o’r gweilch glas. Mae pâr o weilch glas yn defnyddio’r clogwyni o amgylch yr ynys i nythu a magu eu cywion, gydag un cyw yn cael ei fagu’n llwyddiannus eleni.

Mae’r llun hwn o siff-saff yn dangos un o’r nifer fawr o rywogaethau adar sy’n pasio drwy Ynys Echni. Yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf mae’r gwylanod yn mhobman dros yr ynys ond yn ystod yr hydref bydd nifer o rywogaethau yn galw heibio wrth iddyn nhw fudo tua’r de.

Defnyddiais fy lens macro i gael y llun hwn o fadfall. Mae madfallod neu fadfallod vivipara, yn gallu geni eu rhai ifanc yn fyw, yn wahanol i relyw yr ymlusgiaid sy’n dodwy wyau. Mae hyn yn eu galluogi nhw i oroesi mewn llefydd oerach nag y byddai ymlusgiaid eraill. Mae modd dod o hyd iddynt i’r gogledd o Gylch yr Arctig.

Mae’r ychydig luniau nesaf o’r cudyll coch sydd yn ymweld â’r ynys yn ystod misoedd Medi a Hydref. Ar ôl dod nôl i’r ynys ar ôl cyfnod o wyliau fe’n croesawyd ni gan yr olygfa hon o’r cudyllod coch, tipyn o anrheg croesawu. Fe welon ni chwech ohonyn nhw ar yr ynys yn ystod y cyfnod hwn. Fe ddaethon nhw draw i wledda ar y llu o sioncod y gwair oedd yma.


