A diary with a difference…..

Nadolig Llawen oddi wrth Ynys Echni

Shwmae bawb! Sarah sy’ ‘ma, Swyddog Ymgysylltu Cymunedol Ynys Echni, ac rwy’n teimlo’n Nadoligaidd. Dyma’r adeg o’r flwyddyn i ddathlu, ac mae gennym flog arbennig i chi. Yn ystod fy ngwaith mewn ysgolion ledled De Cymru, rydw i wedi gofyn i’r plant anfon post i’r ynys. Mae post yr ynys yn gyfle i blant anfon cwestiynau yr hoffent i dîm Ynys Echni eu hateb.

Rydw i wedi dewis rhai o’m hoff gwestiynau i’w hateb yn y blog isod. Hefyd, cadwch lygad am fideo arbennig gan ein warden Simon, a fydd yn ymddangos ar sianel YouTube Ynys Echni yn fuan!

Pryd alla i symud i fyw ar Ynys Echni? – Kaleb, Ysgol Bro Helyg

Shwmae Kaleb, mae’n wych dy fod eisiau dod i weithio gyda ni! Mae angen i ti fod yn 18 oed i ddod i fyw a gweithio ar Ynys Echni. Mae hyn oherwydd efallai y bydd angen i ti wneud gwaith sy’n cynnwys gyrru’r tractor, torri prysgwydd, neu hyd yn oed ddal gwylanod! Mae’n rhaid i ni aros tan dy fod ychydig yn hŷn cyn y galli di wneud gwaith fel yma. Fodd bynnag, galli di ddod i ymweld â ni ar Ynys Echni ar unrhyw oedran a hyd yn oed aros dros nos yn ein llety.

Beth yw dy hoff fath o aderyn ar yr ynys?  – Lilly, Ysgol Gynradd Dinas Powys

Rwy’n eithaf siŵr y bydd Simon yn ateb dy gwestiwn yn ei fideo, Lilly, ond rydw i am ateb hefyd! Fy hoff adar ar Ynys Echni yw’r gwylanod. Maen nhw’n haerllug a doniol iawn, ac rydw i wrth fy modd gyda pha mor flin maen nhw’n edrych. Fy hoff brofiad yn gwylio’r gwylanod oedd pan welais i wylan yn pesychu selsigen siop sglodion gyfan i fyny i’w chywion. Mae gan wylanod enw drwg oherwydd eu bod yn dwyn bwyd (ac weithiau yn mynd i’r tŷ bach ar ben pobl), ond rydyn ni wrth ein bodd gyda’n gwylanod ar Ynys Echni.

Rhan fawr o waith tîm yr ynys yw gofalu am bron i 2,000 pâr o wylanod cefnddu lleiaf ac ychydig gannoedd o barau o wylanod y penwaig. Mae hyn yn waith mor bwysig gan fod y ddwy rywogaeth bellach ar y rhestr Adar o Bryder Cadwraethol, sy’n golygu, os na fyddwn yn gweithio i’w gwarchod nawr, efallai na fyddant yma yn y dyfodol.

Wyt ti erioed wedi rhoi maldod i gwningen? – Lizzy, Ysgol Gynradd Dinas Powys

Cwestiwn gwych, Lizzy. Mae gennym gannoedd – efallai dros 1,000 – o gwningod ar Ynys Echni ac er eu bod yn edrych yn hynod giwt a chwtshlyd, allwn ni ddim eu hanwesu. Mae’r holl anifeiliaid ar Ynys Echni yn wyllt ac weithiau maen nhw’n ofni pobl. Rydym yn ceisio rhoi cymaint o lonydd â phosib i’r bywyd gwyllt, a gadael iddyn nhw fyw eu bywydau bwni bach mewn heddwch.

Dermestes undulatus

Oes unrhyw ddarganfyddiadau newydd wedi’u gwneud ar Ynys Echni? – Sofia, Ysgol Gynradd Cefn Fforest

Kryptonesticus eremita

Rydw i wrth fy modd gyda’r cwestiwn hwn, Sofia! Rydym wedi gweld cymaint o ddarganfyddiadau anhygoel ar Ynys Echni. Eleni fe wnaethon ni ddarganfod rhywogaeth o chwilen, Dermestes undulatus,sydd heb ei gweld ar y tir mawr ers dros 3 blynedd! Mae gennym hefyd rywogaeth o bry cop, Kryptonesticus eremita,a ddarganfuwyd yn yr ogofâu ar Ynys Echni yn 2017. Nid yw’r pry cop hwn i’w weld yn unman arall yn y Deyrnas Unedig!  Mae’r Gloronen Aeron Ysgarlad yma hefyd, ffwng coch llachar sydd i’w weld yn Seland Newydd fel rheol, ond sydd i’w weld ar Ynys Echni hefyd!

Un o’r pethau sy’n gwneud fy swydd mor gyffrous yw’r cyfle i fod yn rhan o’r wyddoniaeth a’r darganfyddiadau sy’n digwydd ar yr ynys.  Mae gennym gymaint o ddirgelion nad oes gennym atebion iddynt o hyd, fel a oes mynachlog coll o dan y pridd, a hyd yn oed mwy o bryfed, planhigion a ffyngau i’w darganfod!

Pwy sy’n byw yn y goleudy?

Mae’n gwestiwn gwych, ond yn anffodus nid oedd enw arno! Roedd ceidwaid goleudy yma ‘slawer dydd, a oedd yn byw ar yr ynys. Roedden nhw’n gwneud yn siŵr bod y badell tân glo, a ddefnyddiwyd pan adeiladwyd y goleudy gyntaf, yn cadw i losgi! Yn anffodus gadawodd ceidwad olaf y goleudy yn 1988, pan ddaeth y goleudy’n awtomataidd. Mae hyn yn golygu bod y goleudy yn rhedeg heb fod angen i neb ar yr ynys wneud dim byd – fel robot. Ond cawr o robot! Ac un sy’n goleuo!

Cafodd y goleudy ei wella hyd yn oed yn fwy ym 1997, pan osodwyd paneli solar. Nawr mae’r goleudy’n rhedeg yn llwyr ar ynni solar. Mae gennym hefyd baneli solar eraill ger y Ffermdy a’r Bwthyn Corn Niwl, a dyna lle rydyn ni’n cael pŵer ar gyfer gweddill yr ynys.

Pa deganau sydd gennych chi ar yr ynys? – Ollie, Ysgol Gynradd Dinas Powys.

Hi Ollie, yn anffodus, nid oes gennym lawer o deganau ar Ynys Echni, ond rydym yn cadw gemau bwrdd ar gyfer pobl sy’n aros ar yr ynys. 

Mae yna hefyd lawer o bethau hwyl i’w gwneud yn yr awyr iach ar Ynys Echni. Rhai o’m hoff bethau i’w gwneud yw archwilio’r pyllau glan môr ar y traethau, chwilio am bryfed yn y glaswellt hir, codi boncyffion i chwilio am nadroedd defaid, a gwylio morloi a llamhidyddion. Mae’r wawr a’r machlud hefyd yn anhygoel ar Ynys Echni ac mae’n werth codi’n gynnar neu aros i fyny’n hwyr (tra’n mwynhau coelcerth ar y traeth!).

Ond mae gennym ni un hen ddol… roedd hi’n cael ei chadw yn y storfa arfau ger y goleudy. Nid oes gan y storfa arfau unrhyw oleuadau, a gall fod braidd yn arswydus, felly cafodd rhai o’n hymwelwyr ychydig o ofn wrth ddod o hyd i ddol lawr yno!

Ydych chi’n gwybod enw unrhyw un o’r milwyr oedd yn byw ar yr ynys?  Sut brofiad oedd gweithio ar Ynys Echni yn yr Ail Ryfel Byd? – Nia a Mason, Ysgol Gynradd Cefn Fforest.

Yn Ysgol Gynradd Cefn Fforest, fe wnes i sesiwn arbennig ar yr Ail Ryfel Byd a sut y defnyddiwyd Ynys Echni yn ystod y rhyfel. Roedd Blwyddyn 6 yn ffab – roedd ganddyn nhw gwestiynau arbennig am yr ynys a’i hanes, ac fe wnaethon nhw anfon post gwych i mi mewn côd Morse!

Fe edrychon ni yn archifau Ynys Echni a dod o hyd i’r cofnod hwn gan Ail Lefftenant o’r enw David Benger a leolwyd ar Ynys Echni mewn llyfr o’r enw Flat Holm Bristol Channel Island a ysgrifennwyd gan Bob Jory a’i Ffrindiau. Dyma ddyfyniad o ‘A Night on Flat Holm’.

“At One a.m., the expected happens. We are woken by the wail of the siren mounted on the roof of South Battery Command Post. No time for military formality. I pull on trousers, battle dress blouse and an old pair of flying boots, which require no lacing, seize a steel helmet, and run. Other indistinguishable forms too are racing across the island, stumbling against hammocks. Rabbits and sheep scurry away into the darkness, more scared of us than any enemy bomber. Over on the left, in the centre of the island I hear the sound of the radar diesel generator being hand-cranked – no luxurious self-starters in those day. It is near freezing, the oil is thick and cold and it is taking two blaspheming gunners to turn it, even at half compression. As I listen, it bursts uncertainly into life…’

Gobeithio y cewch chi i gyd Nadolig hyfryd! Byddaf yn ôl yn y Flwyddyn Newydd gyda mwy o chwilod, adar a chychod!

Os hoffech anfon post i’r ynys – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi! Anfonwch e-bost at Sarah: sarah.morgan5@caerdydd.gov.uk neu postiwch gerdyn Nadolig neu lythyr atom:

Tîm Ynys Echni,
Awdurdod Harbwr Caerdydd,
Tŷ’r Frenhines Alexandra,
Heol y Cargo,
Caerdydd,
CF10 4LY

Gallwch hefyd ein dilyn ar Facebook @Flatholm, ar Twitter @Flatholmers neu ar Instagram: @FlatHolmIsland

Byddwn i wrth fy modd yn ymweld â’ch ysgol neu gymuned i adrodd straeon Ynys Echni a rhannu anturiaethau warden yr ynys a’r tîm! I drefnu sesiwn estyn allan, e-bostiwch fi yn sarah.morgan5@caerdydd.gov.uk

Diolch yn fawr iawn i’n noddwyr yng Nghronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac i’r rheini sy‘n chwarae’r Loteri Genedlaethol, sy’n gwneud ein holl waith yn bosibl.

Leave a comment