A diary with a difference…..

Ymweliad Cyntaf ag Ynys Echni

Helo ‘na!

Sarah ydw i a fi yw’r Swyddog Ymgysylltu Cymunedol newydd ar gyfer prosiect Ynys Echni: Cerdded Drwy Amser. Fy ngwaith i yw rhannu straeon ynglŷn ag Ynys Echni – ac mae ‘na gymaint! Ynys llawn hanes dynol a naturiol yw Ynys Echni.  Dw i wedi cael dechrau anhygoel i’m swydd newydd ac wedi ymweld â’r ynys arbennig i ddysgu mwy am ei bywyd gwyllt, ei threftadaeth a sut brofiad yw byw a gweithio ar ynys fechan ym Môr Hafren.

Mae’n bosib na ddylwn i rannu hyn gyda chi, ond un o rannau gorau ein hymweliad oedd y daith gwch. I gyrraedd yr ynys fe deithion ni ar gwch RIB. Gall y cychod hyn gyrraedd cyflymder uchaf o tua 56mya ond mae’n teimlo’n llawer cyflymach gyda’r gwynt a’r môr yn tasgu yn fy wyneb wrth hedfan dros y tonnau! Sgipio dros y tonnau a chadw i fyny â gwylanod fyny fry yw fy hoff ffordd newydd o deithio. Mae wir yn teimlo fel dechrau antur. Ar ôl i ni gyrraedd yr ynys, cawsom ein cyfarch gan y gwirfoddolwyr hynod gyfeillgar sy’n byw ac yn gweithio yno. Mae’r gwirfoddolwyr yn gwybod cymaint am yr ynys ac yn hapus i ateb fy holl gwestiynau. Ar ôl paned o de cyflym a dod i adnabod pawb, roedd hi’n bryd archwilio.

Colourful Dog Whelks

peth sydd mor drawiadol yw pa mor wyllt yw’r ynys. Cyn gynted ag y cyrhaeddwch chi, cewch eich amgylchynu gan gaeau o gennin gwyllt a llysiau’r gingroen, sŵn y gwylanod, rhincian y criciaid, a mwmian y gwenyn. Mae arogl y môr ac arogl cynnes rhedyn a llystyfiant llaith yn eich amgylchynu wrth i chi grwydro dros draethau cerrig neu drwy’r glaswellt hir ac fe welwch gwningod a chywion gwylan yn gwibio allan o’r isdyfiant. Fy narganfyddiad y dydd oedd y wenynen slip coch, sef gwenynen feirch barasitig sy’n dodwy ei hwyau ar lindys. Nesaf cawsom daith o amgylch yr ynys gyda Simon, y warden ar Ynys Echni (fe’i methwyd bron ar ôl i’r wenynen ddiddorol dynnu ein sylw). Dywedodd Simon gymaint wrthym am dreftadaeth yr ynys, o ddarganfod bwyell o’r Oes Efydd i adeiladu barics y fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Fy hoff adeilad o bell ffordd oedd yr ysbyty colera Fictoraidd anhygoel, sydd heddiw bron fel sgerbwd o frics yn edrych dros yr ynys. Cawsom gyfle hefyd i grwydro’r twneli storio ffrwydron o dan yr ynys. Wedi’i ddylunio fel na fyddai matsien sy’n cael ei thaflu’n ddiofal yn llosgi’r ynys gyfan, mae naws digon annifyr i’r twneli helaeth hyn, lle perffaith i adrodd straeon ysbryd am drigolion blaenorol yr ynys!

Black Slip Wasp

Gorffennon ni ein diwrnod cyntaf ar yr ynys gyda choelcerth ar y traeth lle wnaethon ni dostio malws melys a gwrando am alwadau piod y môr oedd yn hedfan uwch ein pennau. Daeth ein torshis pen yn ddefnyddiol iawn wrth grwydro’r traeth yn ystod y nos ac ar gyfer hela crancod mewn pyllau glan môr. Mae’r rhan fwyaf o rywogaethau crancod yn nosol, felly yn aml dyma’r amser gorau i’w gweld.

Ynys Echni Lighthouse

Roedd yr ail ddiwrnod ar yr ynys yn lawog a diflas, ond nid yw hynny’n atal tîm o wirfoddolwyr Ynys Echni. Fe dreulion ni’r diwrnod yn clirio’r ardal bicnic o flaen yr ystafelloedd cysgu oedd yn llawn llysiau’r gingroen ac ysgall. Cawsom lawer o help gan ddefaid Boreray yr ynys a ddechreuodd bwyta’r glaswellt a’r gwreiddiau. Mae’r defaid hyn yn rhywogaeth sydd mewn perygl a chawsant eu cyflwyno i’r ynys i helpu i greu safleoedd nythu newydd ar gyfer gwylanod trwy fwtya’r llystyfiant sydd wedi gordyfu. Wrth siarad am wylanod, ni fyddai sôn am ymweliad ag Ynys Echni yn gyflawn heb gyfeirio atynt! Ymwelon ni ym mis Awst, pan roedd y rhan fwyaf o barau gwylanod eisoes wedi gadael, ond roedd digon ohonynt i’w gweld o hyd. Mae dros 2,000 o wylanod yn nythu ar Ynys Echni, sy’n cynnwys gwylanod cefnddu lleiaf, gwylanod y penwaig, a dau bâr o wylanod cefnddu mwyaf. Roeddem yn ddigon ffodus i weld dau gyw gwylanod cefnddu lleiaf y tu allan i’n hystafelloedd cysgu, yn cael eu gwarchod gan oedolyn ewn iawn. Mae’r cywion yn hynod giwt a fflwfflyd ac mae ganddynt guddliw anhygoel sy’n eu helpu i weddu i’w cynefin arfordirol creigiog. Gwelsom hefyd lamhidydd oddi ar ochr ogleddol yr ynys! Fy hoff beth bywyd gwyllt y dydd oedd y nadroedd defaid oedd yn byw yn yr ardd. Mae nadroedd defaid ar Ynys Echni yn fwy trwchus na’u cymheiriaid ar y tir mawr ac mae gan y gwrywod gennau glas llachar yn ystod y tymor bridio. Y rheswm dros y gwahaniaethau hyn rhwng y nadroedd defaid ar yr ynys a’r tir mawr mae’n debyg yw gan nad oes ganddynt ysglyfaethwyr naturiol ar Ynys Echni a gallant fforddio bod ychydig yn fwy lliwgar.

Cholera Isolation Hospital

Ar noson yr ail ddiwrnod, fe wnaethon ni fachu blancedi a swatio yn yr ardal gyffredin gydag ychydig o siocled poeth. Wnaethon ni chwarae gemau bwrdd a darllen llyfrau tan hanner nos, yn aros am gawod meteor Perseid! Aethon ni i’r lanfa gyda’n fflachlampau pen dibynadwy i geisio gweld seren wib. Nid yw gorwedd ar y traeth cerrig yn ofnadwy o gyfforddus, ac yn sicr mae angen gwisgo’n gynnes, ond Ynys Echni yw’r lle delfrydol i syllu ar y sêr, gan fod y diffyg goleuadau artiffisial yn golygu mai ychydig iawn o lygredd golau sydd, ac mae’n rhoi golwg heb ei hail i ni o’r gawod meteor – profiad anhygoel!

Sea Thrift

Roedd ein diwrnod olaf ar yr ynys yn chwerwfelys. Roeddwn yn drist i adael mor fuan ond yn edrych ymlaen at ddychwelyd am antur arall. Gwnaeth morlo llwyd ddod i’r golwg wrth i ni adael i godi’n calon a gwibiodd gylfinir dros yr ynys wrth i ni aros am ein cwch ar y lanfa. Alla i ddim aros i ddod yn ôl!

Byddwn i wrth fy modd yn ymweld â’ch ysgol neu gymuned i adrodd straeon Ynys Echni a rhannu anturiaethau warden yr ynys a’r tîm! I drefnu sesiwn allgymorth e-bostiwch fi ar sarah.morgan5@caerdydd.gov.uk

Gallwch hefyd ein dilyn ar Facebook @Flatholm, ar Twitter @Flatholmers neu ar Instagram: @FlatHolmIsland

Os hoffech chi gael eich antur eich hun ar Ynys Echni, cysylltwch â’n tîm archebu: prosiectynysechni@caerdydd.gov.uk Neu ffoniwch ni ar 029 2087 7912.

2 responses

  1. bob

    in a foreign language is there an english version i can understand

    September 20, 2023 at 1:28 pm

    • Hi Bob, yes the English version is below. This version is in Welsh.

      October 2, 2023 at 9:34 am

Leave a comment